Olwyn Cymru Caerdydd - Gŵyl y Gaeaf Caerdydd bmibaby
==============================================
Bydd llygaid pawb yn sicr o droi at ŵyl y Gaeaf bmibaby Caerdydd eleni, wrth i’r olwyn fwyaf a welodd Cymru erioed rowlio'i ffordd i’r Ganolfan Ddinesig. Mae Olwyn Cymru Caerdydd yn atyniad 60m newydd sbon sy’n rhoi golygfeydd godidog o’r llawr sglefrio awyr agored a'r holl ddinas.
Bydd Olwyn Cymru Caerdydd yn agor ddydd Iau Tachwedd 15, ac mae hi 30m yn uwch nag olwyn fawr y llynedd. Mae gan yr olwyn 40 gondola sy’n gallu dal chwe pherson yr un, gyda’r daith yn para 10 munud.
Mae bob caban yn gaeedig ac yn dal dŵr, a bydd modd i’r teithwyr weld golygfeydd fel Castell Caerdydd a Stadiwm y Mileniwm o’r uchelfannau.
I gael rhagor o fanylion ac i archebu tocynnau www.wheelofwales.co.uk
Dylech gyrraedd 30 munud cyn y sesiwn i gasglu eich ‘sgidiau
Am ragor o wybodaeth ac i archebu'ch tocynnau sglefrio ar gyfer gŵyl y gaeaf bmibaby - cliciwch yma neu ffoniwch 029 20 230 130
