ticketlineuk.com cardiff.gov.uk

prisiauCanllawiau Sglefrio Diogel
==============================================

1. Gwisgwch ddillad cyfforddus ond cymerwch ofal â hetiau, sgarffiau a chotiau hirion sy'n bosib iddynt gael eu dal yn eich esgidiau sglefrio chi neu rywun arall.

 

 

 

 

2. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis esgidiau sglefrio o'r maint cywir, fel arfer hanner maint yn fwy na'ch esgidiau arferol. Dylai'r bwts ffitio'n dda - heb fod yn rhy dynn, ond yn cynnal y ffêr yn dda.

 

 

 

 

3. Sefwch wrth ymyl y llawr iâ, gafaelwch yn y bar a chamwch ar yr iâ.

 

 

 

 

4. Ymlaciwch, plygwch eich pen-gliniau, edrychwch ymlaen nid i lawr a chymerwch gamau bach.

 

 

 

 

 

5. Yn fuan iawn bydd hyn yn datblygu'n lithrad byr ar bob troed. Gwnewch yn siwr eich bod yn cadw'ch sodlau at eu gilydd er mwyn atal y llafn rhag rhedeg i ffwrdd â chi.

 

 

 

 

6. Yn raddol, byddwch yn llithro ymhellach ac ymhellach. Er hynny, tan y byddwch yn teimlo'n hyderus dylech barhau i sglefrio yn agos i'r bar.


 

 

 

 

==============================================

Rheolau a Gwaharddiadau - yma


Dylech gyrraedd 30 munud cyn y sesiwn i gasglu eich ‘sgidiau

Am ragor o wybodaeth ac i archebu'ch tocynnau sglefrio ar gyfer gŵyl y gaeaf bmibaby - cliciwch yma neu ffoniwch 029 20 230 130

Hafan | Ymunwch â'n Rhestr Bostio | Cysylltu | ©2007 Cyngor Caerdydd