ticketlineuk.com cardiff.gov.uk

bmibaby.com

gŵyl y gaeaf caerdydd bmibaby ar agor !
===============================================


Mae Gŵyl y Gaeaf bmibaby Caerdydd yn dychwelyd i’r Ganolfan Ddinesig am y seithfed flwyddyn yn 2007, â thros chwarter miliwn o sglefrwyr eisoes wedi’i ddefnyddio yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf. Bydd y llawr sglefrio hudol yn ei ôl rhwng 15 Tachwedd 2007 a 6 Ionawr 2008 yn cynnig 52 diwrnod o sglefrio

Boed yn sglefriwr profiadol neu’n ddysgwr mae llawr sglefrio Gŵyl y Gaeaf bmibaby Caerdydd yn brofiad hanfodol y gaeaf hwn. Er mai’r llawr sglefrio ydyw ffocws y sglefrwyr a’r gwylwyr ill dau, mae digon o atyniadau eraill ar hyd yr arena i’r teulu cyfan eu mwynhau, gan gynnwys y bar caffe iâ; teras wedi’i wresogi i wylio’r sglefrio; carwsél a reidiau ffair draddodiadol i blant; yr Olwyn Fawr ac adloniant am ddim yr ŵyl.

Mae Gŵyl y Gaeaf bmibaby Caerdydd yn elfen ymhlith nifer o weithgareddau i ddathlu’r ŵyl yng Nghaerdydd, sy’n cynnwys y seremoni troi’r goleuadau Nadolig ymlaen ar 15 Tachwedd, Dathliadau Blwyddyn Newydd Calennig Caerdydd (â llwyfan cerddoriaeth fyw am ddim, Sioe Dân y Teulu Admiral, a bysus am ddim); cyfleoedd siopa Nadolig arbennig yn y ddinas â chyfleusterau Parcio a Theithio ychwanegol a llawer mwy.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu'ch tocynnau sglefrio ar gyfer gŵyl y gaeaf bmibaby - cliciwch yma neu ffoniwch 029 20 230 130

Hafan | Ymunwch â'n Rhestr Bostio | Cysylltu | ©2007 Cyngor Caerdydd

Free JavaScripts provided
by
The JavaScript Source