Cwestiynau Cyffredin
==============================================
A ddylwn archebu o flaen llaw?
Rydym yn eich argymell i brynu eich tocynnau o flaen llaw rhag ofn i chi gael eich siomi.
Pryd ddylen ni gyrraedd?
Ceisiwch gyrraedd o leiaf 30 munud cyn eich sesiwn er mwyn casglu eich esgidiau sglefrio.
A yw’r pris llogi esgidiau sglefrio wedi’i gynnwys ym mhris y tocyn?
Ydy, bydd yr esgidiau sglefrio’n cael eu darparu.
Beth yw maint yr esgidiau sydd ar gael?
Mae esgidiau sglefrio ar gael o faint plentyn 8 (ewro 25) i faint oedolyn 15 (ewro 50). Mae esgidiau sglefrio llafn dwbl sy’n ffitio dros esgid y plentyn ar gael i blant llai.
A allwn ni ddod â’n esgidiau sglefrio ein hunain?
Gallwch, ond mae gan drefnwyr yr hawl i beidio caniatáu esgidiau sglefrio a ystyrir yn anaddas.
Beth yw’r oedran ieuengaf ar gyfer sglefrio?
Mae angen i blant fod yn 3 mlwydd oed a throsodd er y byddwn yn cynghori rhieni i benderfynu drosynt eu hunain a fydd y plentyn yn mwynhau'r profiad os ydynt yn ifanc iawn. Rhaid i blant dan 8 oed fod gydag oedolyn 18 mlwydd oed neu drosodd sydd wedi talu’r ffi lawn (uchafswm o 2 blentyn dan 8 oed gyda phob oedolyn). Ni chaniateir i berson hyn gario plentyn yn ei freichiau.
A ganiateir defnyddwyr cadeiriau olwyn ar y llawr sglefrio?
Caniateir nifer cyfyngedig ym mhob sesiwn. Rhaid i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn fod gyda pherson nad yw’n anabl i wthio'r defnyddiwr o gwmpas y llawr. Nid oes angen i’r person nad yw’n anabl allu sglefrio gan y gellir darparu gripiau sbeic ar gyfer eu hesgidiau. Hysbyswch Ticketline pan fyddwch yn archebu. Mae’r bar Caffi Iâ, y teras cynnes ac Olwyn Cymru Caerdydd oll yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Beth ddylen ni wisgo?
Cofiwch fod y llawr sglefrio yn un awyr agored a bydd y sglefrio’n parhau boed haul neu law, felly gwisgwch yn gynnes. Ar adegau bydd haen denau o ddwr ar y llawr sglefrio; ni fydd hyn yn effeithio ar eich sglefrio ond efallai y cewch eich gwlychu rywfaint pe baech yn disgyn. Bydd trowsus cotwm trwchus yn enwedig jîns yn amsugno llawer o ddwr ac yn cymryd llawer o amser i sychu. Argymhellir dillad tywydd gwlyb ar gyfer diwrnodau garw. Gwisgwch sanau trwchus i fod yn gyffyrddus a pheidiwch ag anghofio eich menyg.
A fydd sesiynau’n cael eu canslo mewn tywydd garw?
canslo sesiwn sglefrio mewn glaw trwm, eira neu wyntoedd cryfion. Os bydd rhaid canslo, trosglwyddir eich sesiwn i sesiwn arall addas trwy’r pwynt prynu gwreiddiol. Os nad oes sesiwn arall addas trefnir ad-daliadau trwy’r pwynt prynu gwreiddiol. Ni ad-delir costau teithio.
Oes rhaid i ni dalu i wylio?
Gellir mynd i’r holl fannau gwylio a’r bar caffi iâ am ddim felly dewch draw i weld a chadw’n gynnes â siocled poeth neu win cynnes.
==============================================
Canllawiau Sglefrio Diogel - yma
Dylech gyrraedd 30 munud cyn y sesiwn i gasglu eich ‘sgidiau
Am ragor o wybodaeth ac i archebu'ch tocynnau sglefrio ar gyfer gŵyl y gaeaf bmibaby - cliciwch yma neu ffoniwch 029 20 230 130
